Ein cyf/Our ref: Eich cyf/Your ref:
Ebost/Email: ceri.davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk Ffôn/Phone: 03000 654248
|
Clerc y Pwyllgor
Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Annwyl Alun
Cynigion y Comisiwn Ewropeaidd i wahardd pysgota â rhwydi drifft
Diolch am y cyfle i gyflwyno sylwadau ynghylch effaith bosibl cynigion y Comisiwn Ewropeaidd i wahardd pysgota â rhwydi drifft.
Nid ymatebodd Cyfoeth Naturiol Cymru i ymgynghoriad yr UE yn 2014 ynghylch gwahardd pysgota â rhwydi drifft, ond byddai’n cefnogi’r syniad o gyfyngu ar bysgodfeydd Ewropeaidd sy’n effeithio ar rywogaethau sydd o bryder cadwraethol, fel môr-grwbanod, mamaliaid ac adar môr. Ymddengys y byddai cynnig yr UE, fel y mae ar hyn o bryd, yn effeithio mewn modd anghymesur ar y pysgotwyr yng Nghymru sy’n defnyddio dulliau cynaliadwy a bach eu heffaith o bysgota â rhwydi drifft. Byddai CNC yn cefnogi dull rhanbartholedig, yn seiliedig ar dystiolaeth, o reoli pysgota â rhwydi drifft yng Nghymru, yn unol â’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin newydd, a hefyd y defnydd o dechnoleg (fel dyfeisiadau sain tanddwr, neu ‘pingers’ fel y’u gelwir), lle bo hynny’n briodol.
Yn gywir
Ceri Davies
Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Strategaeth a Chynllunio